Simple-Camera/fastlane/metadata/android/cy/full_description.txt

8 lines
762 B
Plaintext

Gellir defnyddio'r camera i dynnu lluniau a recordio fideos. Gellir newid rhwng y camerâu blaen a chefn, addasu ble mae lluniau a fideos yn cael eu cadw a chyfyngu'r cydraniad. Mae'n bosib troi'r fflach ymlaen neu i ffwrdd neu ei ddefnyddio fel fflacholau. Mae pinsio yn chwyddo mewn ac allan.
Os wyt eisiau lansio'r ap hwn gan ddefnyddio botwm camera dy ddyfais, mae'n bosib bydd yn rhaid analluogi dy ap camera arferol yn Gosodiadau -> Apiau -> Camera -> Analluogi.
Nid yw'n cynnwys unrhyw hysbysebion nac yn gofyn caniatâd diangen. Mae'n gwbl cod agored ac mae modd addasu lliwiau'r ap fel wyt ti'n eu hoffi.
Mae'r ap hwn yn un ymhlith nifer o apiau ar gael yn Gymraeg gan Simple Mobile Tools. Mae rhagor i'w gweld yma: https://www.simplemobiletools.com