Mae Megalodon yn fersiwn wedi'i addasu o'r app swyddogol Mastodon Android gan ychwanegu nodweddion pwysig sydd ar goll yn yr ap swyddogol, megis ffrwd y ffederasiwn, postio heb ei restru a gwyliwr disgrifiad delwedd. Nodweddion allweddol - postio heb ei restru : Postiwch yn gyhoeddus heb gael eich neges yn ymddangos mewn pynciau trendio, hashnodau neu ffrydiau cyhoeddus. - Ffrwd y ffederasiwn: Gwelwch yr holl negeseuon cyhoeddus gan bobl ar bob gweinydd arall yn y fydysawd mae eich gweinydd cartref wedi'i gysylltu iddo. -Ffrydiau personol: Pinio unrhyw restr neu hashnod i dab cartref Megalodon er mwyn llithro rhwng eich hoff bynciau a phobl - Drafftiau a negeseuon wedi'u trefnu: Yn caniatáu paratoi neges a'i threfnu i'w anfon yn awtomatig ar adeg benodol. - Pinio negeseuon: Piniwch eich negeseuon pwysicaf i'ch proffil a gweld beth mae eraill wedi pinio gan ddefnyddio'r tab "Pinned". - Dilyn hashnodau: Gweler negeseuon newydd gyda hashnodau penodol yn uniongyrchol yn eich llinell amser cartref trwy eu dilyn. - Ateb ceisiadau dilyn: Derbyn neu wrthod ceisiadau dilyn yn eich hysbysiadau neu'r rhestr ceisiadau Dilyn pwrpasol. - Dileu ac ail-ddrafftio: Y nodwedd boblogaidd a wnaeth olygu'n bosibl heb swyddogaeth olygu go iawn. Dewis iaith: Dewiswch iaith yn ddi-boen ar gyfer pob neges rydych chi'n ei gwneud felly mae hidlyddion a chyfieithu yn gweithio'n gywir. - Cyfieithu: Cyfieithu negeseuon yn hawdd y tu mewn i Megalodon! Dim ond os yw'r nodwedd ar gael hefyd ar eich gweinydd Mastodon. - Dangosydd gwelededd neges: Wrth agor neu ateb neges, bydd eicon defnyddiol sy'n nodi gwelededd y neges yn ymddangos. - Themâu lliw: Oni ddylech chi hoffi'r lliw Pinc diofyn (mae'r siarc yn eich barnu'n dawel), mae themâu lliw Moshidon ar gael.